Mae pobol wedi ymgynnull yn Sgwâr Llangefni i ddangos eu cefnogaeth i drigolion Catalwnia yn sgil y refferendwm annibyniaeth.

Fe arweiniodd y refferendwm at ymateb llawdrwm gan lywodraeth Sbaen wrth i bleidleiswyr a’r heddlu wrthdaro ger gorsafoedd pleidleisio.

Yn ôl trefnwyr y rali, maen nhw’n awyddus i gefnogi pobol Catalwnia “yn eu hymdrech i ddiogelu democratiaeth a’u hawl i bleidleisio dros eu dyfodol gwleidyddol eu hunain”.

Dywedodd y trefnwyr: “Mae ymateb llawdrwm Llywodraeth y Wladwriaeth Sbaenaidd a thrais creulon y Guardia Civil dydd Sul diwethaf ar ddiwrnod refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn warth rhyngwladol.

“Mae ymdrech ddiweddaraf wrth-ddemocrtaidd Gwladwriaeth Sbaen i atal Senedd Catalwnia ar ddydd Llun, Hydref 9 yn ychwanegu at y gwarth hwnnw.”