Fe allai diffyg ymroddiad cynghorau i ehangu addysg Gymraeg danseilio ymdrechion i sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dyna neges ymgyrchwyr sy’n ymgasglu ar gyfer rali yng Nghaerdydd heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol newid eu cynlluniau addysg Gymraeg oherwydd nad oedden nhw’n ddigonol, a chynhaliodd y cyn-Aelod Cynulliad Aled Roberts adolygiad brys o’r sefyllfa ar eu rhan.  

Ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud gwaith ymchwil sy’n dangos y bydd rhaid i ran fwyaf plant Cymru gael addysg Gymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dim ond 15% o blant saith oed oedd yn derbyn addysg Gymraeg yn y brifddinas y llynedd – 22% oedd y ffigwr drwy Gymru gyfan.

Bydd rhaid i Gaerdydd ddyblu’r ddarpariaeth i 33% erbyn 2025, meddai’r ymchwil, a chynyddu i 43% erbyn 2030 a 71% erbyn 2040.

Ymhlith y siaradwyr yn y rali heddiw mae’r cerddor Gwenno Saunders, Prif Weithredwr CBAC Gareth Pierce a Sandy Clubb, sy’n rhiant lleol.

‘Cyfrifoldeb’

Yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, mae gan bob cyngor sir gyfraniad i’w wneud er mwyn gwireddu’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae gan bob sir gyfraniad i’w wneud tuag at greu’r filiwn o siaradwyr fydd gyda ni, ond ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn rhwystro’r Llywodraeth rhag cyrraedd y nod.

“Mae cyfrifoldeb arbennig ar siroedd poblog fel Caerdydd sy’n tyfu’n gyflym lle mae canran isel iawn yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.

“Mae’n gwbl glir: os nad oes cynnydd sylweddol yng Nghaerdydd, fydd dim modd cyrraedd y targed cenedlaethol.

“Mae agor deg ysgol Gymraeg newydd yng Nghaerdydd erbyn 2022 yn gwbl ymarferol ac yn hanfodol os yw’r Blaid Lafur yng Nghaerdydd yn mynd i gefnogi nod Llafur Cymru.

“Mae gyda nhw gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifri.”

Ystyriaethau pwysig

Ychwanegodd Prif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce: “Un o’r ystyriaethau pwysig yw’r modd y gellir gweithredu’r continwwm sydd yn cael ei ddatblygu fel modd i ddisgyblion wneud cynnydd ar y daith o’r ddarpariaeth ail iaith bresennol i gaffael sgiliau iaith rhugl.

“Mae hyn yn allweddol o ran cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg un ar bymtheg oed. Mae hefyd yn bwysig talu sylw i dystiolaeth ymchwil yn ymwneud â ffactorau pwysig sydd wedi hyrwyddo twf blaenorol mewn addysg cyfrwng Cymraeg.”

‘Llawer gormod o rwystrau o hyd’

Yn ôl rhiant lleol, Sandy Clubb, fydd yn siarad yn y rali: “Mae’r achos dros addysg Gymraeg i bawb yn agos iawn at fy nghalon i.

“Fel rhywun sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn fy ugeiniau, dw i’n gwybod pa mor bwysig ydy’r cyfle i ddysgu yn gynnar yn dy fywyd.

“A dw i’n falch bod fy mhlant i’n cael addysg Gymraeg. Ond mae ’na lawer gormod o rwystrau o hyd, diffyg llefydd Cymraeg er enghraifft, a phobol yn cael eu gorfodi i deithio’n bellach i gyrraedd ysgol Gymraeg.

“Mae’n rhaid i ni i gyd gydweithio ac ymgyrchu dros ddarpariaeth gyflawn, sy’n golygu na fydd dim un plentyn bellach yng Nghymru yn tyfu lan yn colli ma’s ar y cyfle i fyw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Dylai addysg Gymraeg fod yn hawl i bawb.”