Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton wedi galw ar Blaid Cymru i’w hymuno drwy alw am bleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth.

Dywedodd UKIP fod Plaid Cymru bellach “nôl yn esgus bod yn wrthblaid go iawn” ar ôl i Leanne Wood gyhoeddi ei bod y dod â chytundeb gyda’r Blaid Lafur i ben.

Mewn datganiad, fe wnaeth Neil Hamilton ailadrodd sylw ymfflamychol a wnaeth yn y Senedd dros flwyddyn yn ôl, drwy ddweud bod Kirsty Williams, y Rhyddfrydwraig sydd yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, a Leanne Wood yn “harîm gwleidyddol Carwyn [Jones].”

Ar y pryd, cafodd ei feirniadu’n llym am ddefnyddio iaith rywiaethol.

Plaid Cymru – “gwrthblaid go iawn”?

Yn y datganiad, dywedodd, drwy gyhoeddi diwedd y compact â’r Llywodraeth, fod Leanne Wood yn “gobeithio y bydd pleidleiswyr yn anghofio rôl Plaid ym methiannau Llafur Cymru.”

“Y cwestiwn nawr yw p’un a fydd Plaid yn profi ei bod yn wrthblaid go iawn; drwy ymuno ag UKIP a phleidiau eraill mewn pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth Lafur ofnadwy hon, sydd wedi gwanhau Cymru i fod y lle tlotaf yn y Deyrnas Unedig.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.