Mae Plaid Cymru wedi dod â’i chytundeb â’r Blaid Lafur ers 2016 i ben.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth golwg360 fod yr arweinydd Leanne Wood wedi ffonio’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, am naw y bore yma i roi gwybod iddo.

Mewn llythyr at aelodau’r Blaid, mae Leanne Wood yn dweud ei bod yn “siomedig” nad yw’r Llywodraeth Lafur wedi cytuno i weithredu ar rai o flaenoriaethau’r Blaid.

Yn ôl yr arweinydd, mae’r rhain yn cynnwys dod â ffioedd dysgu myfyrwyr i ben, dileu’r cap cyflog ar weithwyr y sector gyhoeddus yn y Gwasanaeth Iechyd ac atal y Llwybr Du – y llwybr sy’n cael ei ffafrio gan y Llywodraeth ar gyfer creu coridor newydd o’r M4.

Fodd bynnag, mae cytundeb dwy flynedd gwerth £210 miliwn Plaid Cymru a’r Llywodraeth ar y gyllideb yn aros, ond mae’r Blaid yn dweud nad yw’n rhwym i’r cytundeb.

Awgrymodd y llefarydd wrth golwg360 y gallai’r Blaid benderfynu dod â’r cytundeb i ben os bydd Llafur yn parhau i wthio’r Llwybr Du.

Mewn datganiad, mae Carwyn Jones wedi dweud bod y sgwrs rhyngddo â Leanne Wood yn “gyfeillgar” a bod y ddau wedi cytuno i barhau i gyfathrebu.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud bod y cyhoeddiad yn “lanast” ar ran Plaid Cymru, gan ddweud bod ei chefnogaeth tuag at y Blaid Lafur “yn rhad”.

Cafodd y cytundeb – ‘Compact i Symud Cymru Ymlaen’ ei sefydlu ym mis Mai 2016, ar ôl i Carwyn Jones fethu sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad i’w ail-ethol yn Brif Weinidog.

Llythyr Leanne at aelodau

“Mae’r trefniant wedi ein galluogi i sicrhau cyllid ar gyfer blaenoriaethau Plaid Cymru hyd at gyfanswm o hanner biliwn o bunnoedd, ein galluogi i weithredu tua 50% o’n maniffesto ar gyfer adeiladu’r genedl,” meddai Leanne Wood wrth aelodau Plaid Cymru.

“Yr ydym wedi defnyddio ein dylanwad i sicrhau fod prosiectau yn bwrw ymlaen ledled Cymru. Galluogodd y compact ni hefyd i symud safbwynt Llafur ar gwestiynau allweddol Brexit megis y farchnad sengl a rhyddid symud trwy ein gwaith ar y cyd ar y Papur Gwyn – Sicrhau Dyfodol Cymru.

“Yr oedd yn siomedig, fodd bynnag, na chytunodd y Llywodraeth Llafur i rai o’n blaenoriaethau eraill. Mae Plaid Cymru eisiau rhoi terfyn ar y cynnydd mewn ffioedd dysgu ac atal colli cymaint o’n graddedigion.

“Rydym eisiau i Gymru ddilyn arweiniad yr Alban a dileu cap cyflogau’r sector cyhoeddus yn y GIG. Rydym yn benderfynol o atal Llwybr Du yr M4, i wneud yn sicr fod gwariant ar seilwaith yn cael ei rannu’n fwy cyfartal ar hyd a lled ein gwlad.”

Ychwanegodd fod angen “newid llywodraeth” erbyn hyn er mwyn i Blaid Cymru sicrhau rhai o’i pholisïau.

“Mae’r cytundeb ar y gyllideb yn derfyn naturiol i’r Compact. Mae’r cytundeb dwy-flynedd yn dod â ni i sefyllfa lle gallwn gynhyrchu dewis arall clir cyn etholiadau newydd y Cynulliad.

“Mae’r ymrwymiadau a sicrhawyd gennym yn cynrychioli egin ein rhaglen ar gyfer llywodraethu. Rhaid i ni oll weithio tuag at y nod o lywodraethu os ydym am weld adeiladu ar y sylfeini.”