Mae un o dafarndai mwya’ eiconig tref Aberystwyth mewn perygl o gau ei drysau ddiwedd y mis, os na fydd landlord newydd yn dod i’r adwy.

Mae arwydd i’w weld y tu allan i’r Cŵps yn hysbysebu am berchnogion newydd – ac os na fydd neb yn dangos diddordeb, mae golwg360 yn deall y gallai’r dafarn gau ddiwedd Hydref.

Ers degawdau lu bu’r tŷ tafarn yn gyrchfan i gymuned Gymraeg y dref – yn fyfyrwyr a thrigolion – ac mae cannoedd o gigs y Sîn Roc Gymraeg wedi eu cynnal yno dros y blynyddoedd.

Yn un o dafarndai hynaf Aberystwyth, mae drysau’r Cŵps – neu The Coopers Arms – wedi bod ar agor ers o leia’ 1861, os nad cyn hynny.

Yn ôl datganiad ar dudalen Facebook y dafarn, mae’r perchnogion wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi ar ôl 11 mlynedd o fod y tu ôl i’r bar.

Aelod Cynulliad yn clodfori’r Cŵps

Roedd un o Aelod Cynulliad presennol Plaid Cymru yn Lywydd ar Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth rhwng 1989 a 1990 ac eto rhwng 1991 ac 1992.

Yn y cyfnod hwnnw bu Llŷr Huws Gruffydd hefyd yn gweithio y tu ôl i’r bar yn y Cŵps, ac mae’n cofio’r adeg fel “oes aur” y dafarn.

“Roedd e’n ganolfan ac yn hyb go-iawn ar gyfer gweithgarwch myfyrwyr a Chymreictod y dref,” meddai wrth golwg360.

“Roedd lot o rialtwch yn perthyn i’r lle yn sicr, mae yna atgofion melys iawn o nosweithiau yn nhop y Cŵps wrth gwrs.

“Yn y cyfnod yna, roedd nosweithiau cyson gyda bandiau yn chwarae yna – Meic Stevens, Neil Rosser, Steve Eaves – y cyfnod yna oedd hi.

“Mae pawb siŵr o fod yn dweud mai eu dyddiau coleg oedd yr oes aur ond yn sicr, bydd y Cŵps â lle pwysig iawn yn fy atgofion i o fy nghyfnod i yn Aberystwyth.

“Wrth gwrs, doedd [tafarn] y Llew Du ddim mor flaenllaw’r adeg hynny, y Cŵps oedd y canolbwynt… mae wedi rhyw fath o bendilio i’r Llew wedyn, mae wedi bod nôl a ‘mlaen.

“Mae’n drist iawn i glywed os oes diwedd i oes y Cŵps, mi eith e i lawr yn chwedloniaeth Aberystwyth fel ryw ganolfan i genedlaetholdeb a chenedlaetholwyr a Chymry Cymraeg.

“Roedd y posteri ar y waliau’r adeg hynny yn dyddio nôl i’r 60au a’r 70au, roedd e fel rhyw gronicl o hanes diwylliant poblogaidd Cymraeg.

“Mae yna beryg bod ni’n boddi mewn sentimentalrwydd ond yn sicr, mae e’n le y bydd pawb yn cofio ag atgofion melys iawn o’u cyfnod nhw yn Aberystwyth.”

Bydd parti gadael yn y dafarn nos Sadwrn, Hydref 28.

Mae croeso i chi rannu atgofion am Y Cŵps ar waelod y stori hon.