Mae merched wyth gwaith yn fwy tebygol o ffonio i drafod pryderon am eu pwysau a’u hedrychiad, yn ôl ymchwil gan elusen sy’n cynnal llinell gymorth i blant.

Derbyniodd yr NSPCC alwadau gan 2,000 o ferched trwy linell gymorth Childline y llynedd – dim ond 256 o fechgyn wnaeth eu ffonio.

Rhwng 2015 a 2017 bu Childline yn cynnal 150 o sesiynau cwnsela ar gyfer plant o Gymru oedd yn gofidio am eu hedrychiad. Plant rhwng 12 a 15 oed wnaeth gysylltu â’r llinell gymorth fwyaf.

Mae’r elusen yn nodi mai delweddau o “gyrff perffaith” ar y teledu ac ar gyfryngau cymdeithasol sy’n gwneud i blant boeni.

“Pawb yn wahanol”

“Mae’n bwysig bod pobol ifanc yn sylweddoli bod pawb yn wahanol a bod gan bawb yr hawl i fod yn gyfforddus â’i hunain,” meddai Sylfaenydd Childline, Esther Rantzen.

“Bydd Childline yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i unrhyw fachgen neu ferch sydd yn cael trafferth ymdopi â phroblemau â’u hedrychiad.”