Mawnogydd wedi'u hadfer ger Rhyd-ddu yn Eryri (Llun Parc Cenedlaethol Eryri)
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1 miliwn at adfer tir mawnog mewn dau barc cenedlaethol ar ucheldiroedd Cymru.

Y gobaith yw helpu i atal carbon rhag cael ei ollwng i’r awyr a lleihau’r peryg o lifogydd sydyn ar lawr gwlad.

Fe fydd pedwar corff – Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – yn cydweithio ar y prosiect tair blynedd.

Mae tair swydd newydd eisoes wedi eu hysbysebu yn y wasg – un rheolwr prosiect a swyddog yr un yn y ddau Barc Cenedlaethol.

‘O les i bawb’

“Mae adfer mawnogydd o les i bob elfen o gymdeithas heddiw gan ei fod yn lleihau lefelau carbon sy’n cael eu gollwng i’r awyr, yn gwella ansawdd dŵr ac yn gwella rheolaeth afonydd,” meddai Rhys Owen, Pennaeth Amaeth a Chadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri.

“Bydd yn helpu rheolwyr tir i wella cyfleoedd pori, yn cadw nodweddion arbennig ein tirweddau hanesyddol ac yn diogelu nodweddion cynhanesyddol.”

Y cefndir

Dyma’r diweddara’ mewn cyfres o brosiectau i geisio gwarchod ac adfer mawnogydd.

Er mai dim ond 3% o wyneb y ddaear sy’n dir mawnog, y gred yw ei fod yn storio 30% o’r carbon.

Gall mawnogydd iach atal llifogydd trwy sugno dŵr ac arafu ei lif i afonydd,