Babi cynnar iawn (ceejayoz GNU1.2)
Mae canllawiau newydd yn cael eu cyflwyno i staff iechyd sy’n gofalu am fabanod sydd wedi cael eu geni’n rhy fuan.

Mae Cylchlythyr Iechyd Cymru gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu’r hyn y mae’n rhaid i fyrddau iechyd ei wneud i ofalu am blant sy’n cael eu geni yn gynt na 24 wythnos.

Cafodd y canllawiau eu datblygu wedi i ddynes leisio pryderon yn sgil marwolaeth ei mab – bu farw mab Emma Jones, Riley, bedair blynedd yn ôl wedi cyfnod beichiogrwydd o 22 wythnos.

Pryder Emma Jones oedd bod cyfarwyddiadau presennol Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain ddim yn cynnig digon o gyngor i weithwyr iechyd.

“Cefnogi mamau”

Dan y canllawiau newydd bydd teuluoedd yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau am ofal babanod ac fe fydd camau yn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau asesiadau meddygol prydlon.

“Diolch o waelod calon i Emma Jones am fod yn barod i rannu ei phrofiadau poenus â ni,” meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol  Cymru,  Dr Frank Atherton.

“Diolch iddi hefyd am gydweithio â ni i ddatblygu’r canllawiau newydd. Bydd hyn o fudd i wasanaethau mamolaeth yn eu gwaith o gefnogi mamau a theuluoedd mewn ffordd sensitif pan fo babanod yn cael eu geni ar y trothwy goroesi.”