Mae ffrae iaith dros bwy allai cymryd y cyfrifoldeb i ddelio â chwynion am y Gymraeg wedi dechrau ar-lein – ac mae’r  Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei chanol hi.

Ar ei dudalen Facebook, fe rannwyd stori golwg360 oedd yn adrodd ar awgrym Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, y gallai’r Ombwdsmon, Nick Bennett, ddelio gyda’r cwynion.

Wrth rannu’r neges, dywedodd Adam Price, “Ombwdsmon sydd wedi dyfarnu yn erbyn defnydd o’r Gymraeg mewn cynghorau bro nawr i reoleiddio’r Gymraeg? Sai’n credu”.

Roedd y gwleidydd yn cyfeirio at ddyfarniad yr Ombwdsmon yn honni bod Cyngor Cynwyd, ger Corwen yn rhoi siaradwyr di-Gymraeg “o dan anfantais” wrth gyhoeddi dogfennau yn y Gymraeg yn unig.

Fe wrthododd Nick Bennett dadansoddiad Adam Price o’r achos mewn sawl ymateb – gan ffraeo gyda phobol eraill oedd wedi ymuno â’r ffrae yn y neges.

Mewn un ymateb, dywedodd Nick Bennett, “Mae delio gyda c[h]amweinyddu yn golygu [g]wneud y peth deg nid y peth poblogaidd.”

Ombwdsmon eisiau rôl y Comisiynydd?

Mae’r Ombwdsmon hefyd i’w weld yn ceisio cyfiawnhau’r awgrym y gallai gymryd rôl Comisiynydd y Gymraeg wrth ddelio â chwynion ac mewn papur yn ymateb i ymgynghoriad ar fil y Gymraeg, dywed y byddai modd i’w swyddfa ymgymryd â’r cyfrifoldebau hynny.

“Mae fy awdurdodaeth wedi’i sefydlu cyn awdurdodaeth Comisiynydd y Gymraeg,” meddai Nick Bennett yn ei ymateb.

“Nid wyf yn credu felly y byddai Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 yn mynnu unrhyw ddiwygiad statudol er mwyn caniatáu i’m swyddfa ymchwilio i gwynion ynghylch y Gymraeg yn erbyn cyrff cyhoeddus.”