Mae lleiafrif o feysydd yn derbyn mwy o arian gan Lywodraeth Cymru “ar draul” y mwyafrif yn y gyllideb ddrafft a gafodd ei chyhoeddi ddoe ym Mae Caerdydd.

Dyna ddadansoddiad academydd o Brifysgol Caerdydd, wrth i’r gwariant ar Iechyd gynyddu gan 0.77% a’r gwariant ar Gymunedau a Phlant godi o 5.38%.

Ond, i bob maes arall – Llywodraeth Leol; Economi ac Isadeiledd; Addysg; Amgylchedd a Materion Gwledig; Gwasanaethau Canolog – mi fydd cwymp yn y gwariant.

“Erbyn 2019 mi fydd [Iechyd] yn cymryd drosodd dros hanner y gyllideb am y tro cyntaf,” meddai Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil yn Adran Wleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd wrth golwg360.

“Dros y deng mlynedd diwethaf mae wedi codi o tua 40% i dros hanner y gyllideb – sy’n dangos bod iechyd wedi cael ei ddiogelu fel gwariant, ac mae hynny wedi dod ar draul y rhan fwyaf o feysydd eraill.”

Beth am amaethyddiaeth?

O’r meysydd fydd yn gweld cwymp, maes gwariant yr Amgylchedd a Materion Gwledig fydd yn wynebu’r cwymp fwyaf – sef toriad o 15.27%.

Yn ôl y Ffarmwr a Chyflwynydd Teledu, Gareth Wyn Jones, mae’r gostyngiad yn “dipyn o sioc” ac mae’n mynnu fod angen “cydbwysedd” yng ngwariant y Llywodraeth. 

“Mae o’n dipyn o sioc i mi fel ffarmwr,” meddai Gareth Wyn Jones wrth golwg360.

“A dw i’n gobeithio [bod Llywodraeth Cymru] heb droi eu cefnau ar gefn gwlad. Achos mae’n rhaid iddyn nhw gofio ein bod ni angen cynhyrchu bwyd, gofalu am yr amgylchfyd, gofalu am yr anifeiliaid.

“Ac mae llawer iawn o galonnau cefn gwlad yn cychwyn efo’r ffarm deuluol. Mae’n bwysig i ni gael y cydbwysedd. Mae iechyd gryn mor bwysig â phob dim sydd gyda ni, ond mae’n bwysig cael cydbwysedd.”

“Sicrhau adran gref”

“Bydd yn rhaid i ni weld y gyllideb lawn cyn gweld pa fesurau sydd wedi cael eu heffeithio,” meddai  Pennaeth Polisi NFU Cymru, Dylan Morgan wrth golwg360.

“Ond, ein pryder ar hyn o bryd yw sicrhau adran gref i ddelio ag her Brexit. Wrth gwrs bydd unrhyw ostyngiad yn y gyllideb i [faes amaethyddiaeth] yn effeithio ar ein gallu i ddelio â’r heriau sydd o’n blaen.”

Er pryderon am Brexit, mae Dylan Morgan yn nodi bod mwyafrif o gymorth ariannol y byd amaethyddiaeth yn dod o Frwsel ac yn cwestiynu effaith toriad y gyllideb ar fyd amaeth.

Gwariant 2018-19 (Canrannau = newid)

  • Addysg: £1.4bn (-2.37%)
  • Amgylchedd a Materion Gwledig: £243m (-15.27%)
  • Cymunedau a Phlant: £397m (+5.38%)
  • Economi ac Isadeiledd: £800m (-4.12%)
  • Gwasanaethau Canolog a Gweinyddiaeth: £284m (-4.71%)
  • Iechyd, Lles, Chwaraeon: £7.2bn (+0.77%)
  • Llywodraeth Leol: £3.3bn (-0.24%)