Mae Llywodraeth Cymru “o ddifrif” am yr angen i ddiwygio Mesur Brexit, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

Daeth ei sylwadau mewn anerchiad fideo i Aelodau Seneddol Albanaidd, wrth iddo ddweud fod y llywodraeth yn “barod i gydweithio â phwy bynnag allwn ni” er mwyn atal y Mesur pe na bai gwelliannau’n cael eu cyflwyno.

Dywedodd wrth Bwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad yr Alban: “Mae angen i Lywodraeth y DU ddeall ein bod ni’n hollol o ddifrif am hyn.

“Nid chwythu bygythiadau mo hyn, nid cael pum munud rhethregol yn yr haul ydyn ni. 

“Fe awn ni o gwmpas hyn mewn ffordd ddifrifol iawn a byddwn yn gwneud beth bynnag allwn ni, byddwn ni’n cydweithio â phwy bynnag allwn ni er mwyn trechu eu cynigion.”

Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “gipio grym”, ac fe gyflwynon nhw gyfres o welliannau yr hoffen nhw eu gweld yn cael eu cyflwyno cyn y byddan nhw’n fodlon cefnogi’r Mesur.

Bydd Mesur Brexit yn trosglwyddo cyfrifoldebau cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd i Lywodraeth Prydain, gan gynnwys cyfreithiau mewn meysydd sydd wedi cael eu datganoli. Ond mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi dweud bod y drefn honno’n tanseilio datganoli.

Llwybr trafodaethau

“Mae yma fath o lwybr trafodaethau yma,” meddai Mark Drakeford.

“Ein nod yn gyntaf fydd dwyn perswâd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch natur synhwyrol ein hachos, o natur adeiladol ein hachos. 

“Dw i ddim wedi cefnu o gwbl ar y syniad fod dirfawr angen ffrindiau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig… ac y byddan nhw’n sylweddoli drostyn nhw eu hunain fod ein gwelliannau’n bethau y gallan nhw weithio arnyn nhw gyda ni a dod i gytundeb.”

Rhybuddiodd y byddai diffyg cytundeb gan Lywodraeth Prydain yn arwain y gwledydd datganoledig i geisio cymorth Tŷ’r Cyffredin cyn brwydro’n galed yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae ystyried deddfwriaeth amgen i’r gwledydd datganoledig yn opsiwn o hyd pe na bai cytundeb yn y tymor byr, meddai Mark Drakeford.