Mae’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn annog y cyhoedd i wario’u darnau punt o fewn yr wythnos a hanner nesaf.

Fe fydd yr hen ddarn punt yn cael ei dynnu allan o gylchrediad ddydd Sul, Hydref 15.

Roedd 1.7 biliwn o’r hen ddarnau crwn mewn pocedi a waledi ledled y Deyrnas Unedig ar un adeg, ond bellach mae 1.1 biliwn wedi’u dychwelyd i’r bathdy.

Mae ymchwil diweddar gan YouGov yn awgrymu bod tri chwarter o bobol yn bwriadu gwario’u punnoedd cyn y dyddiad terfyn, tra bod un o bob pump yn bwriadu eu bancio.

Ond, mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod traean o bobol yn dal i feddu ar yr hen geiniog gron yn ddiarwybod – y darnau sy’n cuddio’n eu blychau cynilon a jariau o hyd. 

Wedi Hydref 15 bydd modd i’r cyhoedd ddychwelyd yr hen geiniog gron i’r banc, neu eu rhoi i elusen.