Mae casgliad o asiantaethau dyngarol yng Nghymru wedi lansio apêl argyfwng er mwyn casglu arian i gynorthwyo pobol sydd yn ffoi rhag trais yn Burma.

Dros yr wythnosau diwethaf mae dros hanner miliwn o ffoaduriaid sydd yn ffoi’r trais yn nhalaith Rakhine ym Myanmar, wedi mudo i Fangladesh.

Plant yw dros hanner y ffoaduriaid yma ac mae un ymhob deg o’r ffoaduriaid yn feichiog neu’n famau newydd. Llochesi dros dro sydd â’r mwyafrif ohonyn nhw.

Bydd yr arian gaiff ei godi gan y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) yn cael ei gyfrannu at gynorthwyo pobol sy’n ffoi o Burma yn ogystal â chymunedau sy’n eu cynnal yn Bangladesh.

Mae modd cyfrannu at yr apêl argyfwng ar wefan y DEC, dros y ffôn a thrwy neges destun. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfrannu punt am bob punt mae’r pwyllgor yn codi.
“Afiechydon a dioddefaint”

“Mae pobol yn cyrraedd y gwersylloedd sydd eisoes yn orlawn, wedi blino’n lan ac wedi eu hysgwyd,” meddai Cadeirydd DEC Cymru, Kirsty Davies-Warner.

“Dyma un o’r symudiadau cyflymaf o bobl rydyn ni wedi ei weld yn y degawdau diweddar.

“Rydyn ni’n gweld teuluoedd yn byw mewn llochesi dros dro ar ochr y ffordd heb ddŵr glan, toiledau nac adnoddau ymolchi. Mae’r trychineb dynol yma yn datblygu mewn gwlad sydd yn dioddef yn barod o’r llifogydd gwaethaf mewn degawdau.

“Heb gefnogaeth ar frys, mae’r risg o afiechydon a dioddefaint pellach yn echrydus o uchel.”