Mae wedi dod i’r amlwg fod cais i godi sied i ddal 32,000 o ieir ar gyrion pentref Llangadog wedi cael ei wrthod gan Gyngor Sir Gâr heddiw.

Mae’r cais wedi bod yn un dadleuol gyda rhai trigolion lleol wedi’i wrthwynebu am fod y datblygiad yn cael ei godi’n agos iawn at eu heiddo.

Argymhelliad gwreiddiol y Cyngor oedd ei gymeradwyo ond, yn dilyn ymweliad â’r safle ar fferm Godre Garreg heddiw, fe bleidleisiodd aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio yn erbyn y cais.

Roedd y Cyngor Cymuned lleol wedi gwrthwynebu’r cynllun gyda deiseb yn cynnwys 1,300 o lofnodion a 79 llythyr wedi’u gyrru at y Cyngor, ac fe gafwyd 33 llythyr o gefnogaeth i’r cynllun hefyd.