Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi cyhoeddi eu bod nhw’n galw am dystiolaeth i ymchwiliad am ddyfodol rheilffyrdd Cymru.
Daw hyn wedi’r cyhoeddiad ym mis Gorffennaf eleni i waredu â’r cynllun i drydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe.
Fe gafodd yr ymchwiliad ei lansio ar Fedi 21, ac fe fydd y pwyllgor yn parhau i dderbyn tystiolaeth ysgrifenedig tan 6 Tachwedd 2017.
Ymchwiliad
Yn rhan o’r ymchwiliad fe fydd y pwyllgor yn pwyso a mesur y dadleuon o blaid ac yn erbyn trydaneiddio’r rheilffyrdd, cost trydaneiddio a pha effaith fydd gwaredu â’r cynllun yn ei gael ar gymunedau Abertawe a Chaerdydd.
Byddan nhw hefyd yn archwilio’r achos dros ddatganoli gwariant isadeiledd rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru.
Wedi’r cyhoeddiad ym mis Gorffennaf, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y dylai’r £700 miliwn sy’n cael ei arbed wrth beidio trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe gael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau rheilffyrdd eraill yng Nghymru.
Wrth siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yr wythnos hon, fe wnaeth Theresa May amddiffyn y penderfyniad gan ddweud mai’r pwyslais ydy datblygu gwasanaethau drwy dechnoleg newydd.