Mae tri o bobol wedi’u harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn deunaw oed gafodd ei daro gan gerbyd yn Sir y Fflint dros y penwythnos.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dau ddyn lleol, 28 a 21 oed, wedi’u harestio ac yn cael triniaeth yn yr ysbyty, a bod dynes 23 oed yn cael ei holi yn nalfa’r heddlu.

Bu farw Liam Simpson ar ôl cael ei daro gan gerbyd a’i adael ar y ffordd yn Nhreffynnon, Sir y Fflint ddydd Sadwrn (Medi 30).

Mewn teyrnged iddo cyfeiriodd ei fam, Vicky Simpson, at ei hoffter o bêl-droed lle’r oedd yn chwarae i glwb pêl-droed Treffynnon ac yn gobeithio hyfforddi yn athro addysg gorfforol.

“Ni fydd ein bywydau fyth yr un peth eto, mae ein calonnau wedi torri. Fe fydd Liam yn cael ei golli gan bawb y gwnaeth e gyffwrdd â’u bywydau nhw a phob un a gafodd y pleser o’i gyfarfod.”

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555111.