Gareth Bale Llun: Golwg360
Ni fydd Gareth Bale ar gael ar gyfer gemau rhagbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd oherwydd anaf i’w goes.

Dioddefodd y chwaraewr anaf i’w goes  yr wythnos diwethaf ac ni fu’n chwarae gyda Real Madrid yn erbyn Espanyol dros y Sul.

Fe fydd Cymru’n herio Georgia nos Wener a Gweriniaeth Iwerddon nos Lun.

Cadarnhad y gymdeithas

Bellach mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd yn holliach ar gyfer y gemau.

Yn ôl y gymdeithas, fe ddaeth y penderfyniad yn dilyn cyfres o sganiau wnaeth gadarnhau na fyddai’n ffit i chwarae.

Mae disgwyl yn awr i Tom Bradshaw ymuno â gweddill y garfan yn ddiweddarach  heddiw.

Fe fu Gareth Bale yn rhan o seremoni wobrwyo’r gymdeithas nos Lun lle enillodd wobr Chwaraewr y Chwaraewyr.