Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn Nhredegar Newydd ddydd Sul.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char  yn Nheras Dyffryn, Tref Eliot tua 12.45pm ddydd Sul, 1 Hydref.

Bu farw gyrrwr y beic modur, Dylan Williams, 19 oed, yn y fan a’r lle. Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod yn “byw bywyd i’r eithaf” ac y byddai colled enfawr ar ei ol.

Ni chafodd gyrrwr y car a’r teithiwr eu hanafu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 237.