Dr Anwen Elias (Llun: Gwefan Prifysgol Aberystwyth)
Mae’n “anodd iawn gweld” sut y bydd Catalwnia yn troi’n wlad annibynnol yn sgil refferendwm ddydd Sul, yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth.

Mae Dr Anwen Elias wedi ysgrifennu sawl darn ar ymgyrchoedd annibyniaeth Catalwnia a Gwlad y Basg, ac yn arbenigo ar genedlaetholdeb Ewropeaidd.

Er i Lywodraeth Catalwnia gyhoeddi bod 90% o bleidleiswyr wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth mae Anwen Elias yn amheus ynglŷn â’r posibiliad o wlad annibynnol yn cael ei chreu yn ei sgil.

“Baswn i’n credu eu bod nhw’n mynd i wneud datganiad [o annibyniaeth],” meddai wrth golwg360. “Ond, y cwestiwn, wrth gwrs, yw beth sydd yn digwydd wedyn?”

“Mewn ffordd mae’n sefyllfa anodd iawn oherwydd dyw’r llywodraeth yn Sbaen yn sicr ddim yn mynd i gydnabod hynny. Mae’r gymuned ryngwladol hefyd wedi gwneud yn glir iawn, nad oes gyda nhw unrhyw fwriad i gydnabod Catalwnia fel gwladwriaeth sofran newydd.

“Felly beth fydd Catalwnia yn gwneud? Mae’n anodd iawn gweld sut gall y refferendwm ar annibyniaeth fynd i unman mewn ffordd … Mae’n bosib iawn nad oes llawer y gallan nhw wneud.”

“’Nôl i ddyddiau Franco”

Roedd swyddogion heddlu Sbaen wedi ceisio rhwystro’r bleidlais ddydd Sul trwy lusgo pobol o’r gorsafoedd pleidleisio a thrwy gipio blychau pleidleisio o’r gorsafoedd.

Mae Anwen Elias yn nodi bod trais yr heddlu wedi atgoffa llawer o gyfnod unbennaeth Cadfridog Francisco Franco – delwedd mae Llywodraeth Sbaen yn sicr o geisio’i osgoi.

“Mae’r gymuned ryngwladol yn edrych ar hyn i gyd, a baswn i’n credu fod pwysau yn cael ei roi yn awr ar [Brif Weinidog Sbaen] Mariano Rajoy i sicrhau bod hyn ddim yn parhau – y math o drais rydym ni wedi gweld,” meddai.

“Mae nifer o bobol eisoes wedi dweud bod hyn yn symud Sbaen yn ôl i ddyddiau Franco. Dydy Llywodraeth Sbaen ddim eisiau cael eu cysylltu â’r ddelwedd yma felly byddan nhw’n meddwl yn ofalus am eu camau nesaf er mwyn sicrhau nad yw’r trais yn parhau nac yn gwaethygu.”