Geraint Lloyd, Llywydd CFfI Cymru (Llun: CFfI Cymru)
Mae un o gyflwynwyr Radio Cymru yn gobeithio hyrwyddo gwaith y Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) wrth gael ei ethol yn Llywydd i’r mudiad am y tair blynedd nesaf.

Yng nghyfarfod blynyddol CFfI Cymru yn Aberystwyth dros y penwythnos fe gafodd Geraint Lloyd ei ethol yn Llywydd gan olynu Dai Jones, Llanilar.

Mae’n gobeithio “hyrwyddo mwy o’r ffermwyr ifanc” yn ystod ei gyfnod er mwyn “dangos i bobol y tu allan i’r mudiad beth maen nhw’n ei wneud. Dyw e ddim yn fudiad i ffermwyr yn unig bellach ond yn hytrach i bobol ifanc o bob cefndir,” meddai wrth golwg360.

‘Arbennig’

Ag yntau’n cyflwyno’r shifft hwyr ar Radio Cymru am 10 bob nos o’r wythnos dywed ei fod wedi “cydweithio dipyn gyda’r mudiad dros y blynyddoedd.”

“Mae’r cyfleoedd sydd ar gael drwy’r CFfI wir yn arbennig,” meddai gan gyfeirio at y cyfleoedd i deithio, cymryd rhan mewn gwahanol gystadlaethau a chymryd swyddi fel cadeiryddion ac ysgrifenyddion.

Bu yntau’n gyn-aelod o glwb ffermwyr ifanc Lledrod yng Ngheredigion a bu cystadlu yn y cystadlaethau adloniant “o fantais fawr” iddo, meddai, wrth ddilyn gyrfa ym myd darlledu.

‘Gwaith da’

Mae’n cydnabod fod heriau ariannol yn wynebu’r mudiad ond – “beth sy’n braf yw bod nifer yr aelodaeth yn sefyll yr un fath yng Nghymru.”

“Byddaf i’n parhau i hyrwyddo’r gwaith da er mwyn cynnal y momentwm,” meddai wedyn.

Yn ystod y cyfarfod, fe gafodd Laura Elliott o Forgannwg ei hethol yn Gadeirydd a Dafydd Jones o Feirionnydd yn Is-gadeirydd.