Begotxu Olaizola (Llun: ei chyfrif Facebook)
Rhaid i Lywodraeth Sbaen “gyfathrebu” a thrafod yn dilyn refferendwm ddydd Sul (Hydref 1) lle bu ymgyrchwyr dros annibyniaeth yn hawlio buddugoliaeth.

Dyna yw safbwynt Begotxu Olaizola, sydd wedi bod yn Barcelona ers dydd Sadwrn ac sy’n cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia (ANC) – mudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu am gynnal refferendwm.

Mae Begotxu Olaizola yn pryderu bod Llywodraeth Sbaen yn gwrthod cydnabod y galw am annibyniaeth, ac am weld yr awdurdodau yn cefnu ar ddulliau treisgar.

“Mae’n drist bod Llywodraeth Sbaen yn gwrthod cydnabod beth sydd wedi digwydd,” meddai wrth golwg360.

“Nid yn unig ddoe ond ar hyd y blynyddoedd. Maen nhw o hyd yn ceisio delio â phroblem wleidyddol trwy ddefnyddio’r llys, deddfau a gormes yr heddlu. Yn lle defnyddio agenda gwleidyddol o siarad. Mae ymateb Llywodraeth Sbaen yn siom ac yn drist iawn.

“Rydan ni’n gobeithio y byddan nhw’n newid [eu safbwynt] yn ystod y dyddiau nesaf. Bod nhw’n dechrau cydnabod beth sydd wedi digwydd yma, ac yn eistedd a siarad. Mae’n rhaid i ni siarad, mae’n rhaid cyfathrebu … Mae Sbaen byth yn cyfathrebu tan ei fod yn rhy hwyr.”

“Colli Catalwnia”

Mae Begotxu Olaizola yn nodi ei fod yn ddiwrnod digon “cyffredin” yn Barcelona heddiw – er gwaetha’r trais ar strydoedd y ddinas ddoe.

Er y llonyddwch arwynebol mae’r ymgyrchydd yn awgrymu bod tipyn wedi newid o ran agweddau pobol  tuag at annibyniaeth yn sgil bwrlwm y bleidlais.

“Mae’n drist iawn,” meddai. “Mae [Llywodraeth Sbaen] wedi colli Catalwnia yn llwyr.

“Roeddwn yn siarad â phobol ddoe, ac mi oedden nhw’n dweud:  chwe blynedd yn ôl doedden nhw ddim yn sicr – doedd refferendwm ddim yn bwysig iddyn nhw – ond yn sgil y driniaeth yma gan Sbaen maen nhw o blaid annibyniaeth. Dyma yw stori  llawer o bobol yma.”