Adam Price (llun: Plaid Cymru)
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cytundeb gyda Llywodraeth Cymru ar gyllideb y Cynulliad dros ddwy flynedd nesaf.
Yn ôl Adam Price, y llefarydd dros Gyllid a’r Economi, mae’r cytundeb yn golygu bod dros hanner ymrwymiadau gwariant addewidion maniffesto Plaid Cymru y llynedd wedi eu sicrhau’n llawn neu’n rhannol.
Mae’r cytundeb yn cynnwys
- 80 o nyrsys ardal newydd a £40m i wella gwasanaethau iechyd meddwl
- Cronfa paratoadau Brexit i fusnesau a chynllun grant i ffermwyr ifanc newydd
- £40m ychwanegol i brifysgolion a cholegau
- Torri trethi 100% i gynlluniau hydro cymunedol
- £15m o fuddsoddiad yn y Gymraeg.
“Bydd y cytundeb cyllideb yn golygu buddsoddi yn y pethau sy’n bwysig i bobl,” meddai Adam Price.
“Rydym yn rhwystredig fod y llywodraeth wedi gwrthod ein galwadau am weithredu ar faterion hanfodol fel y cap cyflog a ffioedd dysgu. Ond lle gallwn ni, mae Plaid Cymru wedi sicrhau’r fargen orau i bobl Cymru a byddwn yn parhau i orfodi’r llywodraeth i weithredu er lles pobl Cymru.
“Os mai dyma’r hyn y gallwn ei gyflawni mewn gwrthblaid, dychmygwch beth allem ni ei gyflawni mewn llywodraeth.”
‘Cytundeb cysurus’
Mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies, wedi dilorni’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur fel “cytundeb cysurus y tu ôl i ddrysau caeedig”.
“Dyma’r siarâd ddiweddaraf yn y garwriaeth rhwng Plaid a Llafur ac mae’n dangos y ddwy blaid yn torri nifer o addewidion etholiad i bobl Cymru,” meddai.
“Mae Llafur unwaith eto wedi methu â gweithredu ar gyflogau’r sector cyhoeddus a ffioedd dysgu.
“Mae’n amlwg mai ymgais olaf Plaid Cymru i aros yn berthnasol yw’r cytundeb hwn, ar ôl colli 14 ernes etholiad ym mis Mehefin a bron i 20 y cant o’u Grŵp yn y Cynulliad ers 2016.”