Mae Cyngor Gwynedd wedi brolio bod y sir wedi profi’r “flwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed i’r sector dwristiaeth”.

Yn ôl ystadegau twristiaeth blynyddol daeth dros saith miliwn o bobol i Wynedd gan wario tros £1 biliwn yn 2016.

Bu cynnydd o 5.5% yn y nifer yn aros dros nos wrth ymweld â’r sir.

Mae Cyngor Gwynedd yn hawlio peth o’r clod am y cynnydd:

“Gyda mwy a mwy o bobl yn creu defnydd o lwyfannau digidol wrth gynllunio gwyliau, mae Gwasanaeth Twristiaeth y Cyngor wedi buddsoddi yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf mewn cynlluniau marchnata a chodi ymwybyddiaeth yn benodol mewn ymgyrchoedd ar-lein. Mae Croeso Cymru a busnesau preifat hefyd wedi adeiladu a chefnogi’r ymdrechion yma, ac mae’r buddsoddiad yma yn sicr yn dwyn ffrwyth ac yn trosglwyddo i wariant sylweddol yn yr economi leol.”