Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd profion pellach yn cael eu cynnal i weld a yw gwastraff sydd i fod i gael ei ollwng i ddyfroedd Cymru yn ymbelydrol.

Daw’r datganiad yn dilyn rhoi caniatâd i ollwng deunydd o safle niwclear yn Lloegr ger Caerdydd.

Yn 2014, cafodd trwydded forol ei rhoi i ganiatáu cael gwared ar fwd o orsaf bŵer Hinkley Point C, ar safle gwaredu Cardiff Grounds.

Er nad oes unrhyw fwd wedi ei ollwng hyd yma, mae cynlluniau i ddympio 300,000 o dunelli yn y môr ger Caerdydd.

Amser wedi mynd heibio

Mae rhai wedi codi pryderon y gallai’r mwd fod yn ymbelydrol, ac mewn datganiad at Aelodau Cynulliad, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Amgylchedd Cymru, Lesley Griffiths, y  bydd profion pellach.

“Yn unol ag amodau’r drwydded, oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers rhoi’r drwydded, rhaid ail-samplu ac ail-brofi’r deunydd sydd i’w waredu cyn y gellir ei waredu,” meddai.

“Mae’n arferol bod unrhyw ddeunydd y bwriedir cael gwared arno yn y môr yn cael ei brofi bob tair blynedd yn unol â gofynion Confensiwn Atal Llygredd Morol trwy Ddympio Gwastraff a Deunydd Arall 1972.

“Mae’n bwysig nodi nad trwydded yw hon ar gyfer cael gwared ar wastraff niwclear. Trwydded yw hi i gael gwared ar waddodion sydd wedi’u codi o Aber Hafren.

“Hyd yma, nid oes unrhyw waith gwaredu wedi’i gynnal. Byddwn yn samplu unrhyw ddeunydd sydd wedi’i godi ac sydd am gael ei waredu a bydd yn rhaid i CNC [Cyfoeth Naturiol Cymru] roi cymeradwyaeth ysgrifenedig cyn y gellir gwaredu unrhyw ddeunydd o dan y drwydded.

“Gallaf dawelu ofnau aelodau fod gennym broses asesu gadarn i ddiogelu amgylchedd y môr ac iechyd y cyhoedd, heddiw ac yn y dyfodol.”

Yn ôl datganiad Llywodraeth Cymru fe gafodd profion ymbelydrol eu cynnal ar y pryd ar y mwd a ddaeth o Hinkley Point C ac nad oedd “unrhyw ofidiau ynghylch y lefel radiolegol.”

Erbyn hyn, Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y cais a does dim modd cael gwared ar y deunydd heb eu cymeradwyaeth nhw.