Nicola Miles
Mae merch ifanc o Geredigion newydd adael Mecsico ar ôl i ddaeargryn oedd yn mesur 7.1 ar raddfa Richter daro canol y wlad yr wythnos diwethaf (Medi 19)
gan ladd mwy na 230 o bobol.

Rai milltiroedd o ble’r oedd Nicola Miles yn aros yn y brifddinas, bu i ysgol fechan Enrique Rebsamen ddymchwel gan ladd o leiaf ugain o’r disgyblion ynddi.

Bu’r Gymraes o Geredigion heibio’r ysgol ac fe welodd y difrod – er nad oedd yn sylweddoli ar y pryd mai ysgol oedd wedi ei tharo gan y daeargryn.

“Mi es i a fy ffrind am dro ar ôl iddi dywyllu achos doedd dim trydan gyda ni wylio’r teledu neu fynd ar y We i ddarllen y newyddion,” meddai Nicola Miles wrth golwg360.

“Wrth gerdded heibio un stryd, roedd rhaffau yn stopio pobol i gerdded i lawr – dyma’r stryd oedd yn arwain at yr ysgol.

“Dw i’n cofio dweud wrth fy ffrind fy mod i’n credu bod rhywbeth gwael wedi digwydd. Ond doeddwn i ddim yn gwybod beth yn union tan i ni gael y trydan yn ôl, a gweld mai ysgol wedi dymchwel oedd y rheswm bod cymaint o bobol wedi casglu o amgylch yr ardal.”

“Pobol yn crïo ar y stryd”

Ers mis Chwefror mae Nicola Miles, sy’n wreiddiol o Lanwnnen ger Llanbed, wedi teithio cyfandiroedd America gan gyrraedd Honduras ym Môr y Caribî erbyn hyn.

Dywedodd y ferch 23 oed mai “sioc” oedd ei hymateb cyntaf i’r daeargryn, am iddo ddigwydd union 32 mlynedd ers daeargryn 1985 yn Ninas Mecsico; a 12 diwrnod ers daeargryn Chiapas yn ne’r wlad ar Fedi 7.

Esboniodd ei bod wedi clywed “pobol yn crïo ar y stryd a waliau’n syrthio” a’u bod wedi colli’r trydan.

“Roeddwn i’n disgwyl iddo stopio. Ond aeth y dirgryniadau’n gryfach ac yn gryfach nes bod popeth yn symud a phethau’n cwympo o’r waliau a’r celfi.”

Cymorth a chyfleusterau

Esboniodd Nicola Miles fod gwirfoddolwyr wedi ymateb yn syth wedi’r daeargryn, gan gario dŵr a rhawiau i’r ardaloedd yn ogystal â chyfleusterau i’r canolfannau cymunedol.

“Ar un adeg, dywedodd y gwasanaethau argyfwng wrth bobol nad oedd angen rhagor o help corfforol gan y cyhoedd, a hynny er mwyn i’r timoedd proffesiynol gael lle i weithio,” meddai.

Ac wrth iddi adael y wlad yr wythnos diwethaf, dywedodd Nicola Miles ei bod wedi gweld “grŵp o bobol mewn kit gyda chŵn yn y maes awyr, felly roedd arbenigwyr yn cyrraedd sawl diwrnod ar ôl y trychineb.”