Hillary Clinton mewn rali (Gage Skidmore CCA3.0)
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi y bydd cyn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, yn derbyn gradd doethur er anrhydedd.

Fe fydd y wraig a gafodd fwy o bleidleisiau na’r Arlywydd Donald Trump, ond a gollodd yr etholiad y llynedd, yn dod i’r ddinas i dderbyn ei gradd.

Yn ôl y brifysgol bydd yr anrhydedd yn  cael ei gyflwyno i’r gwleidydd am ei “hymrwymiad i hyrwyddo hawliau teuluoedd a phlant ledled y byd”.

Dyma fydd ymddangosiad cyhoeddus cyntaf Hillary Clinton yn ystod ei hymweliad â’r Deyrnas Unedig ym mis  Hydref.

‘Anrhydedd’

“Mae’n anrhydedd cyflwyno’r wobr hon i Hillary Rodham Clinton,” meddai is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard Davies.

“Mae’n ffigwr o arwyddocâd rhyngwladol enfawr, a rhywun sydd wedi cyflawni llawer dros hawliau dynol, yn enwedig hawliau plant a phobl ifanc.”

Yn ogystal â bod yn wleidydd rhyngwladol yn ei rhinwedd ei hun, fe ddaeth Hillary Clinton yn enwog yng nghyfnod ei gŵr, Bill, yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mae arbenigwyr achau wedi olrhain gwreiddiau Hillary Clinton yn ôl i sawl man yn ne Cymru, gan gynnwys Sir Benfro ac Ystradyfodwg yn y Rhondda.