Clywodd cwest bod bachgen 12 oed wedi marw o glefyd Addison oherwydd roedd meddygon wedi colli cyfle i ddarparu triniaeth i achub ei fywyd.

Bu farw Ryan Morse yn ei gartref ym Mrynithel, Baenau Gwent, ym mis Rhagfyr 2012 wedi salwch dros gyfnod o bedwar mis.

Yn ystod y cyfnod yma aeth mam y bachgen, Carol Ann Morse, ag ef i’r feddygfa sawl gwaith ond mynnodd meddygon mai firws oedd ganddo, clywodd Llys y Crwner, Gwent, Casnewydd, ddydd Iau.

Dywedodd y Crwner, David Bowen, bod Ryan Morse wedi marw “o achosion naturiol lle methwyd y cyfle i ddarparu triniaeth i achub ei fywyd.”

Er hynny ychwanegodd, “yn anffodus doedd y doctoriaid na’r rhieni ddim wedi teimlo ei fod yn angenrheidiol i’w gyfeirio at yr ysbyty, lle gallai gwir natur ei salwch fod wedi cael diagnosis.”

Meddygon

Dywedodd y Patholegydd Ymgynghorol, Dr Yvette Cloette: “Dw i’n credu bod modd osgoi marwolaeth Ryan. Mae modd trin cyflwr Addison unwaith caiff ei adnabod.”

Cafodd dau feddyg o feddygfa Abernant –  Dr Joanne Rudling a Dr Lindsey Thomas – eu cyhuddo o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd – ond fe benderfynodd barnwr yn yr Uchel Lys nad oedd achos i’w ateb.