Mae’r canran o bobol sydd yn goroesi canser yn parhau i gynyddu, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Yn ôl ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 72.2% o bobol wnaeth dderbyn diagnosis rhwng 2010 a 2014 wedi goroesi canser – o gymharu â 69.4% rhwng 2005 a 2009.

Dros ddeng mlynedd mae’r nifer sy’n derbyn diagnosis ac yn goroesi wedi cynyddu gan 7.4% – cynnydd sydd yn “ystyrlon” yn ôl ystadegwyr.

Mae’r ganran goroesi yn parhau yn uwch ymysg menywod – 73.2% yw’r ganran i fenywod, 71.2% i ddynion – er bod y gwahaniaeth yn lleihau’n raddol.

Mae gwelliannau wedi bod yn bennaf ymysg dioddefwyr canser y croen, canser yr ysgyfaint, canser y brostad a chanser y coluddyn.