Mae dyn wedi’i gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a fan ger Y Bala.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar ffordd y B4391 rhwng Y Bala a Llangynog toc wedi 9.00yb.
Fan Mercedez gwyn a lori DAF oedd ynghlwm â’r gwrthdrawiad ar y ffordd ger Llandrillo. Yn ôl adroddiadau roedd y lori wedi disgyn 200m i lawr ochr mynydd.
Cafodd y dyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Amwythig ac mae mewn cyflwr sefydlog.