Mae’r fferm wynt fwyaf yng Nghymru wedi agor yn swyddogol heddiw yn y Cymoedd.

Bydd fferm wynt Pen y Cymoedd yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 188,000 o dai bob blwyddyn, sy’n tua 15% o gartrefi yng Nghymru.

Mae’r fferm wynt wedi’i lleoli rhwng Castell-nedd ac Aberdâr ar dir sydd wedi’i reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cwmni Vattenfall o Sweden yw perchennog y safle sydd â 76 tyrbin a fydd yn gweithredu dros y 25 mlynedd nesa’.

Roedd y prosiect wedi costio £400 miliwn ac mae Vattenfall yn dweud y bydd 23 aelod o staff yn gweithio ar y safle.

Mae’r cwmni wedi ymrwymo i gyfrannu £1.8 miliwn yn flynyddol i gronfa gymunedol y safle, sy’n golygu bod cymunedau yng Nghastell-nedd, Cwm Afan, y Rhondda a Chwm Cynon yn gallu cyfrannu at y prosiect.