Ni fydd yn rhaid i Brif Weithredwr newydd y corff arholi, CBAC, siarad Cymraeg, yn ôl ei hysbyseb swydd.

Mae’r corff sy’n darparu cymwysterau ac yn asesu arholiadau i ddisgyblion Cymru, wedi cael ei feirniadu am nodi bod y gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg dim ond yn sgil ‘dymunol’ ac nid ‘hanfodol’ ar gyfer ei arweinydd newydd.

Bydd y Prif Weithredwr newydd yn dod yn lle Gareth Pierce, siaradwr Cymraeg rhugl, sydd wedi bod wrth y llyw yn CBAC ers 2004.

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru [UCAC] wedi dweud y dylai’r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer y swydd, gan fod y Prif Weithredwr yn cyfathrebu gydag ysgolion Cymraeg eu hiaith “yn gyson” yn ei swydd.

‘Datblygu sgiliau’

Yn y disgrifiad swydd, mae’n sôn y bydd yna “gyfleoedd i gaffael/ddatblygu’r sgiliau hynny”, wrth sôn am y gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg.

Ymrwymiad

Wrth ymateb, dywedodd CBAC mewn datganiad: “Mae CBAC yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.  Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae pob hysbyseb swydd yn ddwyieithog ac rydym yn derbyn ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae swydd ddisgrifiad y Prif Weithredwr yn dweud  fod y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, ac y bydd cyfleoedd ar gael i gaffael/datblygu’r sgiliau hynny.

“Cynhelir cyfweliadau drwy gyfrwng dewis iaith ymgeiswyr ac mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hannog i ddilyn hyfforddiant iaith Gymraeg.  Mae CBAC yn gyflogwr sy’n cefnogi pob aelod o staff sydd am ddatblygu neu wella ei sgiliau iaith  drwy ein rhaglen hyfforddiant mewnol a mentora.

“Bydd angen i ddeiliad y swydd ennill dealltwriaeth gadarn o ofynion y sector cyfrwng Cymraeg wrth ddechrau yn y gwaith os nad oes ganddo ef/hi y ddealltwriaeth honno eisoes.”