David Hart (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae pedoffeil 60 oed, sydd wedi’i gael yn euog o droseddau rhyw difrifol yn erbyn plentyn, a’i draed yn rhydd ar ôl iddo fethu ag ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar ddiwrnod olaf ei achos.

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth i ddod o hyd i David Hart, sy’n dod o ardal Treforys, Abertawe gan nodi fod y mater yn un “brys” a’i fod yn cael ei drin fel “blaenoriaeth.”

Mae’n debyg ei fod wedi bod yn bresennol yn ystod yr achos ond ei fod wedi mynd i Ysbyty Treforys ar ol cael ei daro’n wael.

Cafodd gwarant ei gyhoeddi gan Lys y Goron Abertawe i arestio David Hart ychydig cyn 4.30yh ddydd Mawrth (Medi 26).

Fe’i cafwyd yn euog, yn ei absenoldeb ddydd Mawrth, o 16 cyhuddiad – gan gynnwys 12 cyhuddiad o dreisio plentyn.

Mae llefarydd ar ran NSPCC Cymru wedi nodi ei bod yn “hollol hanfodol” bod David Hart yn cael ei ddal, gan ychwanegu ei fod wedi “cyflawni troseddau atgas a hynod ddifrifol.”

Mae David Hart yn bum troedfedd ac wyth modfedd o daldra, a bellach heb farf a gyda gwallt byr.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’i leoliad gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101, neu gysylltu â Thaclo’r Taclau ar 0800 555 111, gan ddyfynnu 1700375589.