Mae Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb, wedi croesawu llain lanio ar un o safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Môn.
Cafodd £20m ei fuddsoddi er mwyn adnewyddu’r rhedfa ar safle RAF y Fali, ac mae’n debyg na fydd angen ei adnewyddu am 25 mlynedd arall.
Mae’r llain lanio yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer hyfforddi peilotiaid, ac yn sgil y gwaith adnewyddu bydd modd i awyrennau trymach lanio arni.
“Hwb anferthol”
“Mae’r buddsoddiad £20m yma yn hwb anferthol i RAF y Fali,” meddai Guto Bebb, Aelod Seneddol Aberconwy ar Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
“Arwydd arall yw hyn, o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i amddiffyniad yng Nghymru ac economi gogledd Cymru.
“Mae’n grêt i weld Cymru yn chwarae rôl mor bwysig o ran datblygu ein gwasanaethau amddiffyn,” meddai wedyn.