Elfed 'Gyrn Goch' Williams ar y dde, gyda Tomos
Mae warden un o golegau addysg bellach Cymru wedi gosod her i’w hun i ddringo’r Wyddfa 52 o weithiau mewn blwyddyn, sef unwaith yr wythnos.

Gobaith Elfed Williams, neu Elfed ‘Gyrn Goch’ fel y mae’n cael ei nabod, yw casglu at goffrau’r Ambiwlans Awyr – elusen sy’n agos at ei galon wedi i’w fab, 24 oed, ddioddef o anafiadau difrifol bedair blynedd yn ôl.

Esboniodd fod ei fab, Tomos Huw, wedi dioddef anafiadau ym mis Awst 2013 yn rhan o’i waith yn gyrru lorïau a’i fod wedi’i gludo i’r ysbyty ym Mangor mewn hofrennydd ag yna i Ysbyty Stoke am lawdriniaeth.

“Heb yr Ambiwlans Awyr, basa hi wedi bod yn ddrwg iawn arno fo,” meddai Elfed Williams wrth golwg360.

42 taith eisoes wedi’u gwneud

Wrth ei waith, mae Elfed Williams yn warden yn hostel coleg amaethyddol Glynllifon ger Caernarfon ac yn cyflawni’r her ar ddyddiau Gwener a’r penwythnos fel arfer.

Yn 2014 mi fuodd ynghlwm â thaith ‘Cerddwn Ymlaen’ gyda’r canwr Rhys Meirion gan gerdded o Fae Colwyn i Gaerdydd cyn penderfynu gosod her i’w hun eleni.

Mae fel arfer yn dringo’r Wyddfa gan ddilyn Llwybr Cwellyn, ac mae wedi cwblhau pob un o’r llwybrau gan gynnwys Crib Goch.

Er ei fod yn wynebu’r gaeaf wrth nesáu at ddiwedd yr her, dywedodd nad yw hynny’n ei boeni oherwydd – “dw i ddim wedi cael haf da. Dw i wedi cael glaw bob tro dw i’n mynd a niwl a gwynt mawr – mae wedi bod yn haf caled.”

Mae Elfed Williams yn gobeithio codi mwy na £5,000 ac wedi llwyddo i godi tua 4,000 erbyn hyn.