Mae grŵp o bobol sy’n ceisio atgyfodi papur newydd
Y Cymro yn gobeithio cyflwyno rhifyn prawf i Gyngor Llyfrau Cymru o fewn y mis nesaf.

Er nad yw Iestyn Jones,  colofnydd i’r wythnosolyn am 12 mlynedd ac aelod o’r grŵp ‘Cyfeillion Y Cymro’, yn fodlon datgelu beth fydd yn rhan o’r rhifyn “moc-yp” – mae’n dweud fod “lot o syniadau newydd” ynddo.

Dywed fod tipyn o “waed newydd” hefyd yn rhan o’r grŵp, a hynny ar ôl cael “adborth positif dros yr haf” pan wnaethon nhw lansio eu hymgyrch godi arian ar faes y brifwyl ym Môn fis Awst.

Panel grantiau

“Y gobaith rŵan ydi y cawn ni adborth positif gan y Cyngor Llyfrau,” meddai Iestyn Jones gan esbonio y byddan nhw’n cyflwyno eu syniadau gerbron y panel grantiau o fewn yr wythnosau nesaf.

Cadarnhaodd R Arwel Jones, Pennaeth Adran Grantiau Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau, y bydd y Panel Grantiau Cymraeg yn cwrdd ym mis Tachwedd, a’u bod yn disgwyl derbyn manylion gan y grŵp cyn hynny.

Fe gafodd papur newydd wythnosol Y Cymro, a gafodd ei sefydlu yn 1932, ei gyhoeddi diwethaf ym mis Mehefin eleni.