Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio yng Nghaerdydd y bore yma mewn cysylltiad â’r ffrwydrad bom yn Parsons Green, Llundain dros wythnos yn ôl.

Dyma’r seithfed person i gael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac fe gafodd y dyn ei arestio yn ardal Y Rhath o’r brifddinas tua 6 y bore heddiw (dydd Llun, Medi 25).

Mae wedi cael ei gludo i orsaf yr heddlu yn ne Llundain ac yn parhau yn y ddalfa o dan adran 41 o’r Ddeddf Brawychiaeth.

Cafodd 30 o bobol eu hanafu yn y ffrwydrad ar drên tanddaearol fore Gwener, Medi 15.