Mae dynes 30 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth “annisgwyl ac anesboniadwy” dyn o ardal Pentwyn yn y brifddinas.

Mae’r ddynes yn parhau yn y ddalfa wrth i Dîm Ymchwilio Troseddau Mawr a Heddlu De Cymru lansio ymchwiliad i lofruddiaeth i’r achos.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Pant Glas, Pentwyn tua 2:40 brynhawn ddydd Sadwrn (Medi 23), lle daethon nhw o hyd i gorff y dyn 43 oed.

Mae’r swyddogion yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1700371040, neu i ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod ac maent yn cael eu cynorthwyo gan arbenigwyr.