Mae Plaid Cymru wedi galw am eglurhad gan Lywodraeth Lafur Cymru ynghylch dyfodol gwasanaethau trenau Cymru a’r Gororau, ddeuddydd cyn y dyddiad cau ar gyfer tendr newydd.
Awst 18 oedd y dyddiad cau gwreiddiol ar gyfer y tendr, ond fe gafodd ei ohirio tan 26 Medi.
Fe ddaeth i’r amlwg y byddai’r oedi’n costio £3.5 miliwn i’r trethdalwr ac nad yw’r mater wedi cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru o dan Fesur Cymru.
Ond dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud datganiad am y sefyllfa hyd yn hyn.
‘Rhybudd’
Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi rhybuddio am broblemau ar y pryd, a bod yr hyn yr oedden nhw wedi’i ofni wedi digwydd.
Maen nhw’n rhybuddio bellach fod nifer o faterion sydd heb eu datrys, ac y gallai hynny olygu rhagor o gostau i’r trethdalwr.
Maen nhw wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o achosi “cybolfa ddrud” a llanast sy’n codi cywilydd, ac maen nhw wedi cyhuddo Llywodraeth Geidwadol San Steffan o fod yn “ddi-hid”.
Galwad gan Blaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi galw am:
- berchnogaeth gyhoeddus;
- ailfuddsoddi’r holl elw mewn gwasanaethau newydd;
- systemau trafnidiaeth integredig i ranbarthau Cymru, sy’n cynnwys trydaneiddio;
- statws llawn i’r Gymraeg o fewn gwasanaethau;
- a sicrwydd swyddi i weithwyr y rheilffyrdd.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd isadeiledd Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd: “Mae Plaid Cymru am fynegi eu pryder dwysaf a’u braw.
“Mae’r terfyn amser yn cyflym nesáu i gyhoeddi tendr am y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf. Ond chawson ni ddim datganiad na gwybodaeth o gwbl am beth fydd yn digwydd.
“Llanast yw hyn, wedi’i greu yng nghoridorau Whitehall, ac a dderbyniwyd yn llywaeth gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru.
“Rhaid cael datganiad cyn gynted ag y bo modd yn dweud a yw’r anghydfod ynghylch y fasnachfraint nesaf wedi ei ddatrys ai peidio, ynteu a fydd hyd yn oed mwy o arian y trethdalwr yn cael ei wastraffu trwy oedi.
“Gadewch i ni fod yn glir. Tynnodd Plaid Cymru sylw yn gynnar iawn at y ffaith nad oedd y fasnachfraint rheilffyrdd yn cael ei datganoli yn gywir. Petaen nhw wedi gwrando arnom ni, buasai wedi bod yn bosib osgoi’r problemau hyn.”