Wrth i’r ymchwiliad i farwolaeth dau o dripledi o ardal Pen-y-bont ar Ogwr barhau, mae Heddlu’r De wedi pwysleisio nad oes tystiolaeth i awgrymu mai gwenwyn nwy carbon monocsid oedd yn gyfrifol.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Wildmill fore ddoe yn dilyn adroddiadau nad oedd y ddau fachgen yn anadlu.

Cawson nhw eu cludo i Ysbyty Tywysoges Cymru yn y dref, lle buon nhw farw’n ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu mai gwenwyn carbon monocsid oedd yr achos.

“Yn wir, does dim byd sy’n ein harwain ni i gredu bod hyn yn unrhyw beth heblaw damwain drasig.

“Dydy’r dyfalu ynghylch yr hyn oedd wedi achosi’r marwolaethau ddim yn helpu ac mae’n ychwanegu at alar aelodau teulu’r babanod, sy’n parhau i dderbyn cefnogaeth gan dditectifs.”

Ategodd yr alwad gan y teulu am breifatrwydd.