Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu nifer y gwlâu sydd ar gael i gleifion mewn ysbytai.

Daw’r alwad ar ôl i’r ffigurau diweddaraf ddangos y gallai nifer y gwlâu sydd ar gael roi cleifion mewn perygl.

Yn ôl llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth, mae gostwng nifer y gwlâu yn golygu bod cyfradd y cleifion mewn gwlâu yn aros yn gyson dros 85%, y ganran sy’n cael ei hystyried yn ddiogel.

‘Wedi mynd yn rhy bell’

Mewn datganiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Er ei bod yn wir dweud nad oes angen rhai gwlâu ysbytai oherwydd bod newidiadau mewn triniaethau yn golygu ei bod yn saff gyrru cleifion adre, mae hyn wedi mynd yn rhy bell.

“Mae’n rhaid i gyfraddau’r sawl sydd mewn gwlâu aros dan 85% er mwyn i ysbytai aros yn ddiogel a gallu delio â phegynnau annisgwyl, ond mae lefelau’r sawl sydd mewn gwlâu wedi bod uwchben y lefel ddiogel honno ers blynyddoedd bellach.

“Ac eto, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos fod nifer y gwlâu yn gostwng, a’r canlyniad anorfod yw bod cyfraddau cyfartalog y sawl sydd mewn gwlâu yn parhau i godi a’i fod uwchlaw’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ddiogel.

“Arwydd yw hyn fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri nifer y gwlâu yn peryglu cleifion a rhaid rhoi terfyn ar hyn nawr.

“Rwyf eisiau i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd ymrwymo i ddiogelu nifer y gwlâu yn ysbytai Cymru i gadw cyfraddau’r sawl sydd mewn gwlâu ar lefelau diogel.”