Y 'crafwr o'r radd flaenaf' yn ei elfen yn Nhy'r Arglwyddi
Caiff George Thomas, Is-iarll Tonypandy, ei ddisgrifio fel ‘crafwr o’r radd flaenaf’ a ‘rhagrithiwr hunan-gyfiawn’ gan awdur cofiant newydd iddo.

Mae Martin Shipton, prif ohebydd y Western Mail, newydd gyhoeddi llyfr yn dwyn y teitl ‘Politial Chameleon’, sy’n pwyso a mesur y gwleidydd dadleuol.

Dywed Martin Shipton iddo ysgrifennu bywgraffiad o George Thomas gan ei fod yn credu ei bod yn bwysig deall y math y wleidyddiaeth roedd yn ei gynrychioli.

“Yn fy marn i mae George Thomas yn cynrychioli math o wleidyddiaeth sy’n dal i fod hyd heddiw,” meddai.

“Mae deall yr apêl oedd ganddo i lawer o bobl yn ein helpu ni i ddeall pam fod sicrhau cymdeithas decach yn dal i fod mor anodd heddiw.

“Mae’n dal i fod ormod o wleidyddion fel George Thomas, sy’n barod i smalio bod Prydain yn rym mawr wedi ei adeiladu ar ymerodraeth sy’n ei gwneud hi’n well na holl wledydd eraill Ewrop.

“Mae’n dacteg bopiwlist sy’n gweithio, ac sy’n cynnal agwedd afrealistig o’r byd ymysg llawer o’n cyd-ddinasyddion.”

Colli enw da

Ar yr un pryd mae Martin Shipton yn cydnabod fod enw da George Thomas fel person bellach wedi chwalu’n llwyr.

“Mae’r ffordd y gwnaeth fradychu pobl Aberfan bellach wedi dod yn amlwg i genhedlaeth iau llai ymostyngar na’u rhagflaenwyr,” meddai.

“A gellir gweld bellach fod y ddelwedd ohono’i hun fel Cristion unplyg o gymeriad moesol cryf yn gwbl gelwyddog.

“Efallai nad oedd y mwyaf amlwg yn ei ymddygiad rhywiol tuag at bobl ifanc, ond roedd yn sicr ymysg y mwyaf rhagrithiol.”