Mae dau efaill o dripledi pum mis oed wedi marw’n sydyn ym Mhen-y-bont y bore yma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yn ardal Wildmill o’r dref am 10.05 ar ôl i’r ddau gael eu darganfod heb fod yn anadlu. Aed â nhw i’r ysbyty lle cadarnhawyd eu bod wedi marw.

Nid oes unrhyw amgylchiadau amheus, yn ôl Heddlu De Cymru, sy’n disgrifio’r digwyddiad fel ‘damwain drychinebus’.