Elin Jones (llun: Cynulliad Cymru)
Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, yn galw ar bobl o bob plaid a phob safbwynt i gefnogi hawl pobl Catalwnia i bleidleisio ar annibyniaeth i’w gwlad.

Mae hi ymhlith siaradwyr a fydd yn annerch rali Cefnogi Catalwnia yn Aberystwyth am 1 o’r gloch yn Sgwâr Glyndŵr yn y dref y prynhawn yma.

Mae’r trefnwyr yn annog cefnogwyr i ddod â baner yno i ddangos eu cefnogaeth i hawl llywodraeth Catalwnia i gynnal refferendwm yno wythnos i yfory (dydd Sul 1 Hydref).

Mae llys cyfansoddiadol Sbaen wedi gorchymyn atal y bleidlais wrth i lywodraeth y wlad ddadlau ei bod yn anghyfansoddiadol.

“Beth bynnag eich barn am annibyniaeth i Catalwnia, mae hawl gan y bobol i bleidleisio ar eu dyfodol eu hunain, yn heddychlon a democrataidd,” meddai Elin Jones.

“Dw i’n falch ein bod ni’n medru dangos ein cefnogaeth i bobol Catalwnia.

“Yr wythnos yma, roedden ni’n dathlu 20 mlynedd refferendwm datganoli. Cafwyd pleidlais, parchwyd y canlyniad a sefydlwyd ein Senedd.

“Dewch i ymuno – o bob plaid, a phob safbwynt – i sefyll gyda phobol Catalwnia.”