(llunj o wefan Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn a dynes o Sir y Fflint wedi cael gwys i ymddangos gerbron ynadon yr Wyddgrug ddydd Llun ar gyhuddiadau’n ymwneud â marwolaeth beicwraig oedrannus yng Nghei Connah y llynedd.

Cafodd Carol Boardman, 75 oed, mam y beiciwr enwog Chris Boardman, ei lladd mewn gwrthdrawiad ar gylchfan Ffordd yr Wyddgrug a Ffordd Llannarth yng Nghei Connah ar 16 Gorffennaf 2016.

Mae’r dyn a’r ddynes ill dau yn 31 oed ac yn lleol i ardal Cei Connah.

Mae’r dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus a gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ac mae’r ddynes wedi ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.