Dafydd Elis-Thomas ar y dde.
Mae Aelod Cynulliad o Blaid Cymru wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad i achwyn bod Dafydd Elis-Thomas wedi defnyddio iaith anweddus wrth gyfeirio at grŵp y Blaid ar lawr y Siambr.

Yn ôl Adam Price, fe wnaeth cyn-Lywydd y Cynulliad yr Arglwydd Elis-Thomas alw Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn “that bunch of right wing shits.”

Hefyd mae Adam Price yn dweud bod Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Bae wedi clywed iaith anweddus Dafydd Elis-Thomas, sy’n gyn-Lywydd Plaid Cymru.

Mae Adam Price wedi gofyn i’r Llywydd, Elin Jones sydd hefyd o Blaid Cymru, i ddyfarnu a oedd yr iaith honedig a ddefnyddiodd Dafydd Elis-Thomas yn dderbyniol.

Llythyr Adam Price

Mewn llythyr dan y teitl ‘Iaith di-seneddol yn y Siambr’, ysgrifennodd Adam Price: ‘Ddoe, yn ystod y ddadl ar garchar Port Talbot, fe glywais Dafydd Elis-Thomas yn glir, o’i sedd, yn pwyntio at feinciau Plaid Cymru gan weiddi… “that bunch of right wing shits.”

“Roedd Andrew RT Davies [arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig] yn eistedd o flaen Dafydd Elis-Thomas ar y pryd, ac mae ef wedi cadarnhau i mi ei fod wedi clywed y geiriau gan yr aelod dan sylw.

“Hoffwn eich dyfarniad ynglŷn â p’un ai ydy’r geiriau hyn yn iaith seneddol dderbyniol, ac os nad ydynt, pa gamau priodol fydd yn cael eu cymryd.”

Fe wnaeth llefarydd ar ran y Cynulliad gadarnhau bod y Llywydd wedi cael llythyr Adam Price.

Mae golwg360 wedi ceisio am ymateb gan Dafydd Elis-Thomas.