Yr Athro Elizabeth Treasure
Prifysgol Aberystwyth yw’r brifysgol orau yn y wlad o ran ansawdd ei dysgu, yn ôl
The Timesand Sunday Times Good University Guide 2018.

Mae’r Coleg ger y Lli wedi cael ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Dysgu yn y papur newydd a dyma’r tro cyntaf i brifysgol o Gymru gipio’r wobr.

Ar ôl iddi ddisgyn yn nhablau’r prifysgolion dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r wobr ddiweddaraf yn hwb i Is-ganghellor newydd Aberystwyth, Elizabeth Treasure.

Mae’r brifysgol wedi codi naw lle yn y Good University Guide i gyrraedd y 50 prifysgol uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi dringo i’r 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig a’r cyntaf yng Nghymru am brofiad myfyrwyr – i fyny 11 lle o’i gymharu â 2017.

“Ymdrechion eithriadol staff”

“Mae’r wobr annibynnol hon yn gadarnhad digamsyniol o ymdrechion eithriadol ein staff i gynnal y safonau uchaf ac i sicrhau bod gan raddedigion Aberystwyth yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial,” meddai Elizabeth Treasure.

“Ein nod yw darparu cymuned ddysgu ysgogol sy’n meithrin meddwl creadigol a beirniadol. Rydyn ni am ymestyn meddyliau ein myfyrwyr mewn amgylchedd cefnogol ac mae ein haddysgu’n tynnu ar gryfderau ymchwil ein staff academaidd,  sydd gyda system tiwtor personol gref yn sail iddi.”