Quidditch
Mi fydd gan Gymru dîm yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Quidditch Prydain yn 2018.

Bydd ‘Dreigiau Cymru’ yn ymuno ag adran ddeheuol y gynghrair ac felly yn cystadlu yn erbyn timau o Loegr yn cynnwys y Môr Forwynion Dwyreiniol a Marchogion y De Ddwyrain.

Bydd treialon ar gyfer ymuno â’r tîm yn cael eu cynnal yng Ngwanwyn 2018, ac mi fyddan nhw’n agored i unrhyw un sydd yn enedigol o Gymru neu sydd yn byw yng Nghymru dros Haf 2018.

Hefyd yn ymuno a’r gynghrair am y tro cyntaf, bydd tîm cenedlaethol yr Alban sef yr Ysgall Albanaidd. Mi fyddan nhw’n ymuno â’r adran ogleddol.

“Dw i mor falch ein bod ni’n lansio timau Dreigiau Cymru a’r Ysgall Albanaidd,” meddai Cyfarwyddwr y gynghrair, Jack Lennard.

“Pan ddechreuon ni’r llynedd roeddwn yn siomedig bod yn rhaid i ni gyfyngu ein cyrhaeddiad, ond nawr o’r diwedd, rydym yn medru croesawu cymunedau gwych o chwaraewyr o’r gwledydd yma.”

Quidditch?

Gêm o lyfrau ffuglen Harry Potter yw Quidditch, lle mae dewiniaid a gwrachod yn cystadlu i daro peli trwy gylchau yn yr awyr wrth hedfan ar gefn coes brwsh hudol.

Er nad oes gan chwaraewyr y gynghrair go-iawn unrhyw bwerau hudol, maen nhw’n ffyddlon i’r gyfres llyfrau lle bo hynny’n bosib –  mae’r chwaraewyr yn cadw ffyn rhwng eu coesau    

Mae gan bob tîm saith aelod ar y cae ym mhob gêm a’r nod yw dal y ‘snichun euraidd’, sef pêl tennis mewn hosan sydd wedi’i chlymu i ddyn mewn dillad melyn sy’n rhedeg o gwmpas y cae.