Dyfed Edwards (Llun Cyngor Gwynedd)
Mae dau aelod amlwg o Blaid Cymru ymhlith pump aelod sydd wedi eu dewis gan Lywodraeth Llafur Cymru i arolygu’r gwaith o godi’r trethi Cymreig cynta’.

Mae’r cyn AC tros Ddwyrain De Cymru, Jocelyn Davies, a chyn-arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, wedi’u dewis yn aelodau o fwrdd yr Awdurdod Cyllid Cymru.

Y Prif Weithredwr newydd fydd Dyfed Alsop, cyn weithiwr gyda banc HSBC yng Nghymru a thros y dŵr – mae hefyd wedi gweithio i’r corff trethi Prydeinig, HMRC.

Y Cadeirydd fydd Kathryn Bishop sydd wedi bod yn un o Gyfarwyddwr Llywodraeth Cymru ac yn gyfrifol am edrych ar benodiadau i’r gwasanaeth sifil yng Nghymru.

‘Cyfoeth o brofiad’

O fis Ebrill y flwyddyn nesa’, fe fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am weinyddu dwy dreth sy’n cael eu datganoli am y tro cynta’ – y dreth ar drosglwyddo tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi.

“Mae Dyfed a holl aelodau’r Bwrdd yn dod â chyfoeth o brofiad at y gwaith a, gyda’i gilydd, byddan nhw’n chwarae rôl allweddol i sicrhau symudiad esmwyth at rymoedd trethi,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.