Mae nifer y plant sy’n cael eu cyfeirio at yr awdurdodau oherwydd eu bod yn dyst i drais domestig wedi cynyddu yng Nghymru.

Gwnaeth elusen yr NSPCC gyfeirio  172 achos at yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol yn ystod 2016/17 – cynnydd o 13% ar y flwyddyn flaenorol.

Mae’n debyg mai 85% o achosion oedd yn ddigon difrifol i gael eu cyfeirio at yr awdurdodau – canran uwch nag oedd yn cael eu cyfeirio pedair blynedd yn ôl.

Mae’r NSPCC yn mynnu fod gan bawb “rôl i’w chwarae” wrth fynd i’r afael â cham-drin domestig, ac yn galw ar y cyhoedd i “godi’r ffôn” os oes pryder am blentyn.

“Derbyn y cymorth iawn”

“Gallwn helpu newid ymddygiadau ac osgoi camdriniaeth rhag gwaethygu trwy ymyrryd yn gynnar,” meddai Pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion. “Mae ymyrraeth yn holl bwysig ar gyfer diogelu plant a rhwystro niwed hir dymor.

“Mae’n holl bwysig bod plant a phobol ifanc sydd yn cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yn medru derbyn y cymorth iawn er mwyn goresgyn y trawma o fod yn dyst ac o brofi cam-drin domestig.”