Ethan Williams (Llun Gwobrau Arwain Cymru)
Mae aelod o’r Urdd wedi ennill gwobr Arweinydd Ifanc yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni.

Mae Ethan Williams, 17 o Bontypridd, yn aelod o Fwrdd Syr IfanC – fforwm ieuenctid yr Urdd – ac mae’r mudiad yn ei ddisgrifio’n “un o wirfoddolwyr ifanc mwyaf ymroddedig yr Urdd”’.

Cafodd y wobr, sydd ar gyfer arweinwyr ifanc rhwng 14 a 25 oed, ei chyflwyno iddo yng ngwesty’r Hilton, Caerdydd neithiwr (nos Iau).

Mae’n rhan o gyfres Gwobrau Arwain Cymru, sy’n cael eu cynnal ers 13 o flynyddoedd, er mwyn cydnabod arweinwyr ledled Cymru.

‘Profi bod yr iaith yn fyw’

“Er nad yw’r ardal yn un draddodiadol Gymraeg, mae Ethan yn profi’n ddyddiol bod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw, ac mae’n hyfryd gweld ei waith a’i gyfraniad amhrisiadwy yn cael ei gydnabod fel hyn,” meddai Cyfarwyddwr Gwaith Maes a Ieuenctid yr Urdd yn y De, Dai Bryer. “Mae’n ysbrydoliaeth i ni I gyd.

“Mae’n angerddol am yr hyn y mae’n ei wneud dros yr Urdd a thrwy hynny, mae’n llwyddo i hybu’r iaith Gymraeg yn ei ysgol a’i gymuned.”